Mae dyn, 78, wedi cael ei garcharu am dair blynedd wedi iddo saethu ei ŵyr tra oedd yn archwilio ei reiffl di-drwydded.

Cafodd Stanley Metcalf, 6, ei saethu yn ei stumog ar ôl i’w daid, Albert Grannon, danio’r arf yn ystod cyfarfod teuluol yn ei gartref yn Sproatley, Dwyrain Swydd Efrog, ym mis Gorffennaf y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Sheffield fod y bachgen ifanc wedi dweud, “ry’ch chi wedi fy saethu, taid”, wrth i aelodau eraill o’r teulu ymateb i’r ergyd a glywyd yn y tŷ.

Roedd Albert Grannon wedi cyfaddef cyflawni dynladdiad mewn gwrandawiad cynharach.