Mae merch 12 oed wnaeth foddi mewn afon wedi cael ei henwi gan ei theulu.

Aeth teulu Shukri Yahya Abdi i Afon Irwell yn Bury heddiw (Dydd Gwener, Mehefin 28) ble bu farw’r ferch ar ôl boddi neithiwr (Dydd Iau, Mehefin 27).

Yn dilyn marwolaeth Shukri Yahya Abdi mae’r heddlu wedi rhybuddio’r cyhoedd am beryglon y dŵr wrth i wledydd Prydain baratoi am ddiwrnod poetha’r flwyddyn dros y penwythnos.

Roedd y ferch wedi bod gyda dau o’i ffrindiau, meddai swyddog gwylio Gwasanaeth Tân ac Achub Manceinion, Steve Wilcock.

“Pan gyrhaeddodd y swyddogion roedd dau blentyn arall wedi gweld eu ffrind yn diflannu yn yr afon,” meddai Steve Wilcock.

Roedd yr afon yn fwy na 20 troedfedd o ddyfnder mewn rhannau, meddai.

“Byddwn yn pwysleisio’n fawr i blant beidio â chwarae mewn dŵr agored. Dyma neges i rieni hefyd. Fe ddyle chi wybod lle mae’ch plant a beth maen nhw’n ei wneud.”

Yn ôl Swyddfa’r Met, fe all tymheredd godi i 30 neu 31 gradd selsiws yng Nghymru ac yng ngorllewin Lloegr.