Fe fydd prif blismon Hillsborough, David Duckenfield, yn wynebu achos llys arall, cyhoeddodd barnwr heddiw.

Mae wedi’i gyhuddo o ddynladdiad 95 o gefnogwyr Lerpwl trwy esgeulustod difrifol.

Roedd y barnwr Syr Peter Openshaw wedi cyhoeddi’r dyfarniad yn Llys y Goron Preston bore ma (dydd Mawrth, Mehefin 25) yn dilyn gwrandawiad ddydd Llun.

Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi pwyso am achos arall ar ôl i’r rheithgor yn yr achos gwreiddiol fethu a dod i reithfarn unfrydol ym mis Ebrill, yn dilyn achos llys a barodd 10 wythnos.

Cafodd y cais ei wrthwynebu gan gyfreithwyr y cyn-uwch arolygydd David Duckenfield, 74 oed.

Mae disgwyl i’r achos gael ei gynnal ar Hydref 7.

Roedd David Duckenfield yn gyfrifol am weithrediadau’r heddlu ar ddiwrnod y trychineb yn Sheffield yn 1989.

Cafodd 95 o gefnogwyr Lerpwl eu gwasgu i farwolaeth yn ystod gêm gynderfynol Cwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar Ebrill 15, 1989.

O dan y gyfraith ar y pryd, ni chafodd ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Tony Bland gan iddo farw mwy na blwyddyn ar ôl y digwyddiad.

Roedd David Duckenfield wedi gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.