Mae Boris Johnson wedi gwrthod datgelu manylion am y ffrae a gafodd gyda’i gariad ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, gan ddweud ei bod yn “annheg” cymysgu ei fywyd preifat gyda gwleidyddiaeth.

Roedd y ceffyl blaen yn ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn siarad mewn cyfweliad arbennig gyda gohebydd gwleidyddol y BBC, Laura Kuenssberg, lle dywedodd nad oedd am “lusgo” ei anwyliaid i mewn i fyd gwleidyddiaeth.

Daw ei sylwadau wrth i lun ohono a’i gariad, Carrie Symonds, ymddangos mewn nifer o bapurau y bore yma (dydd Mawrth, Mehefin 25). Mae’r llun yn cynnwys y ddau’n eistedd wrth fwrdd mewn gardd yn edrych yn gariadus ar ei gilydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i gartref Boris Johnson fore dydd Gwener yn dilyn adroddiadau o ffrae rhyngddo â’i gariad, ond mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi gwrthod sôn am y digwyddiad ers hynny, er gwaethaf galwadau arno i wneud.

“Galla’i ddatgelu llawer o wahanol bethau, Laura, ond fe wnes i reol nifer o flynyddoedd yn ôl nad ydw i’n siarad am bethau sy’n ymwneud â’m teulu a’m hanwyliaid,” meddai Boris Johnson yn ystod y cyfweliad gyda’r BBC.

“Ac mae yna reswm da iawn am hynny. Y rheswm yw os ydych chi’n siarad amdanyn nhw, yna rydych chi’n eu llusgo nhw i mewn i bethau… Mewn ffordd, bydd hynny’n annheg iddyn nhw.”