Mae £2.4 miliwn o arian y trethdalwr wedi cael ei wario ar adnewyddu tŷ Dug a Duges Sussex, yn ôl cyfrifon blynyddol y teulu brenhinol.

Cafodd yr arian ei wario ar Frogmore Cottage yn Windsor ar gyfer y Tywysog Harry, Meghan a’u mab Archie sy’n cynnwys cegin, ystafell ymolchi foethus ag ystafell yoga.

Mae cyfrifon ar gyfer y Grant Sofran, sy’n ariannu’r Frenhines a’i theulu, yn dangos bod y frenhiniaeth wedi costio £67m i’r trethdalwr yn ystod 2018-19 – cynnydd o bron i £20 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol flaenorol.

Roedd llawer o’r cynnydd o ganlyniad i waith mawr ar Balas Buckingham ynghyd a phalasau brenhinol eraill.

Mae’r Grant Sofran craidd, sy’n helpu i ariannu gwaith y Frenhines a’i chartref, ac sy’n talu am weithgareddau eraill fel teithio brenhinol swyddogol, wedi codi o £3.6m i £49.3m hefyd.