Does “dim tystiolaeth o gwbl” bod Rwsia wedi dylanwadu canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE) drwy ddefnyddio Facebook, meddai is-lywydd y cwmni Syr Nick Clegg.

Mae’r cyn-ddirprwy brif weinidog, a oedd wedi dechrau gweithio i’r cwmni ym mis Hydref y llynedd, hefyd wedi wfftio honiadau bod Cambridge Analytica wedi dylanwadu’r bleidlais dros adael yr UE yn 2016.

Credir bod data hyd at 87 miliwn o bobl wedi cael ei gasglu gan yr ymgynghoriaeth wleidyddol drwy ap cwis personoliaeth.

Dywedodd Nick Clegg wrth y BBC bod Facebook wedi cynnal adolygiad o’i data ac nad oedd “ymgais sylweddol” gan gyrff o’r tu allan i ddylanwadu canlyniad y refferendwm.

Yn ôl cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol mae agweddau pobl wedi cael eu dylanwadu llawer mwy gan y “cyfryngau traddodiadol” dros y pedwar degawd diwethaf yn hytrach na chyfryngau newydd.