Mae ymgyrchwyr wedi ennill her gyfreithiol yn erbyn llywodraeth gwledydd Prydain dros werthiant arfau i Sawdi Arabia.

Roedd Ymgyrch yn Erbyn Masnach Arfau (CAAT) wedi dadlau bod y penderfyniad i barhau i ganiatáu gwerthu arfau i wladwriaeth y Gwlff, sy’n arwain y glymblaid sy’n rhyfela yn Yemen, yn anghyfreithlon.

Yn ôl y grŵp ni ddylai trwyddedau allforio arfau gael eu rhoi pan mae risg clir iddynt gael eu defnyddio yn y rhyfel ac yn groes i gyfreithiau dynoliaeth.

“Roedd y broses gwneud penderfyniadau yn anghywir yn gyfreithiol,” meddai Meistr y Rholiau, Syr Terence Etherton wrth roi barn yn Llys Apêl Llundain heddiw (Dydd Iau, Mehefin 20).

“Dim asesiadau”

Dywedodd nad oedd y Llywodraeth “wedi cwblhau unrhyw asesiadau o ran a oedd y glymblaid dan arweiniad Saudi wedi cyflawni troseddau cyfraith ddyngarol ryngwladol yn y gorffennol yn ystod gwrthdaro Yemen.”
Er hynny, dyw’r penderfyniad yn y llys heddiw ddim yn golygu bod trwyddedau allforio arfau i Sawdi Arabia yn cael eu hatal yn syth.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ystyried y mater gan amcangyfrif unrhyw risgiau i’r dyfodol yn eu casgliadau am y gorffennol,” meddai Syr Terence Etherton.

“Elwa”

“Mae’r bomio yn Yemen wedi creu’r argyfwng dyngarol mwyaf y byd, ac mae cwmnïau arfau gwledydd Prydain wedi elwa bob cam o’r ffordd,” meddai Andrew Smith o Ymgyrch yn Erbyn Masnach Arfau.

Er ei fod yn croesawu’r dyfarniad, mae’n honni na ddylai hyn erioed wedi cael ei gymryd i’r llys lle mae ymgyrchwyr wedi gorfod galw ar y Llywodraeth i ddilyn ei rheolau ei hun.

“Mae cyfundrefn Saudi Arabia yn un o’r rhai mwyaf creulon a gormesol yn y byd, ond ers degawdau, dyma brynwr mwyaf arfau gwledydd Prydain.

“Ni waeth pa erchyllterau y mae wedi eu gwneud, mae’r gyfundrefn Saudi wedi gallu dibynnu ar gefnogaeth wleidyddol a milwrol anfeirniadol gwledydd Prydain.”