Fe fydd y Torïaid yn torri lawr eto ar enwau’r ymgeiswyr sydd yn ceisio i fod yn arweinydd newydd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 18) tra mae disgwyl i Boris Johnson gymryd rhan mewn dadleuon teledu o’r diwedd.

Hon fydd ail rownd pleidleisio’r Torïaid wrth iddyn nhw geisio dewis Prif Weinidog nesaf gwledydd Prydain.

Bydd dadl deledu fyw yn cael yn cael ei ddarlledu heno ble bydd y ffefryn a’r cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, yn ymddangos.

Mae angen i’r ymgeiswyr gael o leiaf 33 o bleidleisiau gan Aelodau Seneddol aros yn y ras i gyrraedd y bleidlais olaf, fydd yn gweld 160,000 o aelodau’r blaid Dorïaidd yn dewis.

Os yw’r ymgeiswyr yn pasio’r trothwy 33 pleidlais, fe fydd yr un sydd a’r lleiaf allan o’r ras a bydd pedwar allan o’r chwech sydd ar ôl yn cael eu gwthio allan, gan adael y ddau olaf.

Y ras

Ar hyn o bryd Boris Johnson sy’n arwain y ras ar ôl dod ar y blaen yn y bleidlais gyntaf yn gynharach fis yma gyda 114 pleidlais.

Yr Ysgrifennydd Tramor presennol, Jeremy Hunt, sydd yn ail ar ol cael 43 pleidlais, ac Ysgrifennydd yr Amgylchedd ddaeth yn drydydd ar ol cael 37.

Yn drydydd mae Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab a gafodd 27 ac yn bedwerydd mae’r Ysgrifennydd Gartref Sajid Javid wnaeth dderbyn 23.

Yna yn bumed mae’r Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol Rory Stewart wnaeth gael 19 pleidlais.