Mae pedwar o bobol wedi marw yn ninas Llundain yn ystod y pedwar diwrnod diwethaf, a hynny o ganlyniad i lofruddiaeth.

Mae cryn gynnwrf wedi bod yn y ddinas dros y penwythnos wrth i’r heddlu wrthdaro â thorfeydd treisgar ger canolfan siopa yn ardal Stratford yn nwyrain Llundain.

Y person diweddaraf i gael ei lofruddio yw dyn yn ei 40au, a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn Whalebone Lane yn Stratford yn ystod oriau mân y bore ma (dydd Llun, Mehefin 17).

Daw’r digwyddiad yn dilyn llofruddiaeth tri pherson arall mewn cyfnod o 24 awr, gan gynnwys marwolaeth dau berson ifanc a gafodd eu lladd yn hwyr y prynhawn ddydd Gwener (Mehefin 14).

Mae’r Heddlu Metropolitan yn dweud eu bod nhw wedi cynyddu maint eu gweithgareddau mewn gwahanol rannau o’r ddinas.

Fe wnaethon nhw hyd yn oed weithredu Adran 60 yn ardal Newham, sy’n galluogi swyddogion i archwilio unrhyw berson er mwyn atal trais. Mae’r gorchymyn hwnnw mewn grym tan 6yh heddiw.

Beirniadu Sadiq Khan

Dros y penwythnos, fe gafodd Maer Dinas Llundain, Sadiq Khan, ei feirniadu gan Arlywydd yr Unol Daleithiau am fethu â delio â’r cynnydd mewn trais.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe alwodd Donald Trump am faer newydd ar y ddinas, gan fod yr un presennol yn “drychinebus” yn ei dyb ef.

Dywedodd Sadiq Khan nad yw’n mynd i “wastraffu amser” yn ymateb i sylwadau Donald Trump gan ei fod yn rhy brysur yn canolbwyntio ar gefnogi cymunedau.

Bu’r maer yn hyrwyddo fideo gwrth-drais ar Twitter heddiw fel rhan o ymgyrch ‘London Needs You Alive’.