Bydd Theresa May yn rhoi’r gorau i arwain y blaid Geidwadol yn swyddogol heddiw (dydd Gwener, Mehefin 7).

Mi fydd yn cadarnhau ei phenderfyniad wrth anfon llythyr at gyd-gadeiryddion Pwyllgor 1922, Charles Walker a’r Fonesig Cheryl Gillan.

Dydd Llun (Mehefin 10), mi fydd y pwyllgor yn derbyn enwebiadau ar gyfer arweinyddiaeth y blaid. Mae disgwyl i enw’r arweinydd newydd gael ei gyhoeddi fis nesaf.

Tan fod olynydd yn cymryd ei lle, mi fydd Theresa May yn arweinydd dros dro ar y blaid, ac yn parhau’n Brif Weinidog ar wledydd Prydain.

Hetiau yn y cylch

Hyd yma mae 11 Aelod Seneddol wedi taflu’u henwau i’r het er mwyn olynu Theresa May, ac un o’r rheiny yw’r Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid.

Wrth siarad ddydd Iau (Mehefin 6), dywedodd Sajid Javid y byddai’n dewis “Brexit heb gytundeb” tros “dim Brexit”; ond pwysleisiodd bod angen i’r senedd gael dylanwad ar y penderfyniad.

Mae Dominic Raab ar y llaw arall yn dweud y byddai’n fodlon diarddel y senedd dros dro er mwyn ei rhwystro rhag atal Brexit heb gytundeb. Mae’r ymgeisydd hwn yn gyn-Ysgrifennydd Brexit.