Mae’r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Anna Soubry, bellach yn arweinydd Change UK, ar ôl i chwe Aelod Seneddol gadael y blaid.

Daw yn dilyn methiant Change UK i ennill tir yn yr etholiad Ewropeaidd ar ddiwedd mis Mai.

Ymhlith y chwe Aelod Seneddol sydd wedi gadael y blaid mae’r cyn-arweinydd, Heidi Allen, Chuka Umunna, Sarah Wollaston, Gavin Shucker ac Angela Smith.

Yr aelodau sydd bellach yn weddill yw Anna Soubry, Chris Leslie, Joan Ryan, Mike Gapes ac Ann Coffey.

Y gred yw bod y rheiny sydd wedi gadael y blaid yn bwriadu ffurfio eu grŵp eu hunain o dan enw blaenorol Change UK – Y Grŵp Annibynnol.