Sam Gyimah, y cyn-Weinidog Prifysgolion yn San Steffan, yw’r ymgeisydd diweddaraf i gyflwyno’i enw i arwain y Ceidwadwyr.

Mae’n golygu bod 13 o enwau bellach ar y rhestr i olynu Theresa May ac i fod yn Brif Weinidog nesaf gwledydd Prydain.

Fe ddaeth cadarnhad o’i ymgeisyddiaeth ar raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky.

‘Rhwystredigaeth’

Wrth egluro’i resymau, dywedodd ei fod yn dymuno “ehangu’r ras”.

“Mae yna ystod eang o ymgeiswyr ond mae yna set o safbwyntiau cul iawn ar Brexit yn cael eu trafod,” meddai.

“A thros yr wythnosau diwethaf, dw i wedi gwylio a thrafod gyda fy nghydweithwyr yn llawn rhwystredigaeth, er bod yna farn eang yn y wlad ynghylch y ffordd i symuad ymlaen ar adeg hanfodol, nad yw’n cael ei adlewyrchu yn y ras ar hyn o bryd.”

Y rhai sydd wedi cyflwyno’u henwau hyd yn hyn yw James Cleverly, Mark Harper, Michael Gove, Matt Hancock, Jeremy Hunt, Sajid Javid, Boris Johnson, Andrea Leadsom, Kit Malthouse, Esther McVey, Dominic Raab a Rory Stewart.