Gallai gweithredu uniongyrchol gan y grŵp amgylcheddol Extinction Rebellion arwain at gau maes awyr Heathrow am hyd at 10 diwrnod yr haf yma.

Mewn datganiad ar ei wefan, dywed y grŵp eu bod nhw’n trafod cynlluniau o’r fath gyda’u haelodau.

“Mae Extinction Rebellion yn mynnu bod y Llywodraeth yn cychwyn gweithredu ar ei ddatganiad o Argyfwng Hinsawdd ac Amgylchedd trwy ganslo unrhyw ehangu yn Heathrow,” meddai’r datganiad.

“Ar 18 Mehefin, bwriadwn gynnal gweithredu uniongyrchol di-drais i sicrhau bod awdurdodau Heathrow yn cau’r maes awyr am y diwrnod, i gydnabod effaith farwol gweithgareddau carbon uchel, fel hedfan, ar fyd natur.

“Os na fydd y Llywodraeth yn canslo pob cynllun i ehangu Heathrow, bydd Extinction Rebellion yn gweithredu i gau’r maes awyr am hyd at 10 diwrnod i 1 Gorffennaf.”

‘Nid targedu’r cyhoedd’

Dywed yr ymgyrchwyr nad targedu’r cyhoedd yw eu bwriad ond rhoi pwysau ar y Llywodraeth.

“Deallwn y bydd y gweithredu yn tarfu ar nifer mawr o bobl yn mynd ar wyliau, ond credwn ei fod yn angenrheidiol yn wyneb y tarfu llawer mwy y byddai trychineb ecolegol yn ei achosi os na byddwn ni’n gweithredu nawr.

“Mae pobl yn cael rhybudd ymlaen llaw i newid eu cynlluniau teithio i fynd ar wyliau.”

Mae’r ymgyrchwyr wedi cael eu beirniadu gan y llywodraeth a’r heddlu ar ôl i ddogfen gyfrinachol ganddyn nhw ddangos eu bod nhw’n ystyried defnyddio drôns i rwystro awyrennau.

“Mae hedfan drôns ger maes awyr yn drosedd ddifrifol ac mae defnyddio drôns yn fwriadol i beryglu bywydau yn gallu arwain at garchar am oes,” meddai’r gweinidog hedfan, y Farwnes Vere.

Dywed llefarydd ar ran Extinction Rebellion fodd bynnag eu bod nhw’n fudiad cwbl ddi-drais ac na fydden nhw’n gwneud ddim i beryglu teithwyr awyrennau.