Gallai plaid Change UK, plaid newydd yn y tir canol, uno â’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn ôl eu harweinydd Heidi Allen.
Daw ei sylwadau ar ôl i Chuka Umunna, un arall o aelodau seneddol y blaid, ddweud y dylai’r ddwy blaid osgoi cystadleuaeth rhwng eu hymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Mae’r blaid yn gyfuniad o aelodau seneddol sydd wedi gadael pleidiau eraill ar y ddwy asgell.
“Hoffwn pe baen ni yn yr un cerbyd,” meddai Heidi Allen, y cyn-aelod seneddol Ceidwadol, wrth Radio 5 Live, sy’n dadlau bod clymbleidiau’n llwyddo ledled Ewrop.
“Dw i ddim yn gwybod beth fyddai’r fformat ond a fyddwn ni’n canu’r un dôn?” meddai wrth awgrymu ei bod hi’n cadw meddwl agored am gyfeiriad y blaid yn y dyfodol.
Ond dywedodd fod angen plaid newydd, ffres yn hytrach nag ymestyn y Democratiaid Rhyddfrydol yn unig.
‘Angen cydweithio’
Mae Heidi Allen yn cyfaddef fod angen i Change UK gydweithio â phleidiau eraill ar hyn o bryd.
“Dw i’n credu ein bod ni’n ddigon synhwyrol i wybod na allwn ni ei gwneud hi ar ein pennau ein hunain.
“A ydyn ni mewn cyfnodau gwahanol ar y continwwm? Wrth gwrs ein bod ni, oherwydd mae pawb yn wahanol.
“Ond ydyn ni i gyd yn cytuno mai’r nod yn y pen draw yw rhywbeth yn y tir canol gyda’n gilydd? Ydyn, rydyn ni i gyd ar yr un llwybr.”
Mae hi hefyd yn rhagweld y bydd mwy o Geidwadwyr ac aelodau seneddol Llafur yn ymuno â’r blaid pe bai Boris Johnson yn dod yn brif weinidog a Jeremy Corbyn yn gwrthod cymeradwyo ail refferendwm Brexit.