Mae protestwyr wedi ymgynnull tu allan i lysgenhadaeth Ecwador yn Llundain yn dilyn honiadau bod swyddogion yr Unol Daleithiau yn cymryd eiddo Julian Assange.

Mae cefnogwyr sylfaenydd Wikileaks, sy’n 49 oed, a chyn-diplomydd yn disgrifio triniaeth Ecwador o Julian Assange yn “gywilyddus.”

Cafodd ei hebrwng i garchar Belmarsh ym mis Ebrill am 50 wythnos ar ôl cael ei gludo allan o’r llysgenhadaeth yn Knightsbridge.

Yn ôl WikiLeaks mae eiddo Julian Assange, sy’n cynnwys papurau cyfreithiol, dogfennau meddygol, ac offer technolegol yn cael eu rhoi i erlynwyr yr Unol Daleithiau.

Mae’r Unol Daleithiau eisiau estraddodi Julian Assange, wnaeth gael lloches wleidyddol yn y llysgenhadaeth yn 2012, am ryddhau cannoedd o filoedd o wybodaeth gyfrinachol y wlad ar ei wefan.

Mae erlynwyr Sweden wedi ail-agor ymchwiliad i honiadau o dreisio yn erbyn Julian Assange hefyd. Mae’n parhau i wadu’r cyhuddiadau.