Wrth i wasanaethau trên ledled Prydain newid i amserlen yr haf yfory, mae ymgyrchwyr trafnidiaeth yn rhybuddio bod yn rhaid osgoi anhrefn tebyg i’r llynedd.

Mae yfory’n un o’r ddau brif ddiwrnod o newid i amserlenni bob blwyddyn, wrth i gwmniau trên, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru, gyflwyno mwy o wasanaethau dros yr haf.

Mae disgwyl y bydd 1,000 o wasanaethau newydd bob wythnos ledled Prydain, ond y llynedd arweiniodd y newid at wythnosau o anhrefn a threnau’n cael eu canslo.

Meddai Darren Shirley, prif weithredwr y grŵp ymgyrchu Campaign for Better Transport:

“Mae gan y rheilffordd ffordd bell i fynd i adennill hyder teithwyr, ond gobeithio bod gwersi’r llynedd wedi cael eu dysgu ac y bydd cyflwyno’r amserlen newydd ddydd Sul yn gwella profiadau pobl o’r rheilffordd, yn lle eu gwaethygu ymhellach.

“Pe digwyddai pethau fynd o’i le, fe fydden ni’n disgwyl i’r diwydiant rheilffyrdd gael cynllun cadarn wrth gefn fel na fydd teithwyr yn cael eu hesgeuluso eto.”

Yn ôl RDG, corff sy’n cynrychioli’r cwmnïau trenau, maen nhw’n hyderus fod popeth yn barod ar gyfer y newid.

Meddai’r Prif Weithredwr Paul Plummer: “Mae cyflwyno 1,000 yn fwy o wasanaethau’r wythnos ar rwydwaith prysur yn her sylweddol, ond rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gyflwyno gwelliannau gan darfu cyn lleied fyth â phosibl.”