Mae “celwyddau Facebook” am bedoffilia yn chwalu teuluoedd, yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Norfolk.

Dywed Simon Bailey, sy’n arwain ymateb gwledydd Prydain i gam-drin plant, bod grwpiau sy’n hela pedoffiliaid yn “cymryd risgiau hollol ddiangen” ac yn effeithio ymchwiliadau’r heddlu.

I swyddogion fel Simon Bailey, mae tactegau’r helwyr yma yn mynd ar draws eu gwaith hwythau, ac yn effeithio ar deuluoedd.

“Ni allaf wadu eu bod wedi arwain at ganlyniadau, ond maen nhw hefyd wedi arwain at bobol yn cael eu bygwth, yn cael niwed corfforol difrifol, yn cael bai ar gam,” meddai.

“Mae’r bobol anghywir yn cael eu cyhuddo, pobol yn  lladd eu hunain, bywydau teuluoedd yn cael eu dinistrio, yn enw beth? Hoffiadau Facebook.”

Mae tystiolaeth gan helwyr pedoffiliaid yn cael ei ddefnyddio yn amlach i erlyn troseddwyr, ond mae’r heddlu yn rhanedig ar y mater.

Yn ôl ffigurau ddaeth i law’r BBC mae tystiolaeth gan helwyr pedoffiliaid wedi arwain at gyhuddo o leiaf 150 o bobol o dan amheuaeth yn 2017.