Mae Duges Sussex wedi rhoi genedigaeth i’w phlentyn cyntaf, meddai Palas Buckingham.
Roedd y bachgen bach yn pwyso 7 pwys 3 owns a chafodd ei eni am 5.26yb heddiw (dydd Llun, Mai 6).
Daw’r enedigaeth lai na blwyddyn ers i Harry, 34, briodi’r gyn-actores o America, 37, yng Nghastell Windsor.
Nid yw’r cwpl wedi cyhoeddi enw ar gyfer eu mab hyd yn hyn.