Bydd Donald Trump yn ymweld â gwledydd Prydain yn swyddogol ym mis Mehefin, yn ôl cadarnhad gan Balas Buckingham.

Bydd Arlywydd yr Unol Daleithiau a’i wraig, Melania, yn westeion i’r Frenhines yn ystod ymweliad tri diwrnod a fydd yn cychwyn ar Fehefin 3.

Daw’r ymweliad mwy na dwy flynedd ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, gynnig gwahoddiad i Donald Trump pan wnaethon nhw gyfarfod am y tro cyntaf yn y Tŷ Gwyn ym mis Ionawr 2017.

Cafodd Theresa May ei beirniadu’n llym ar ôl gwahodd y ffigwr dadleuol, ac mae ymgyrchwyr eisoes wedi dweud eu bod nhw am gynnal protestiadau.

Ers y cyhoeddiad gan Balas Buckingham, mae’r Prif Weinidog yn dweud y byddai’r daith yn gyfle i wledydd Prydain a’r Unol Daleithiau i gryfhau’r “berthynas sydd eisoes yn un agos”.

Bydd yr ymweliad swyddogol yn cynnwys cyfarfod gyda Theresa May, ynghyd â seremoni yn nhref Portsmouth i ddynodi 75 mlynedd ers D-Day.