Mae ymgyrchwyr yn rhwystro rhai o strydoedd prysuraf Llundain wrth iddyn nhw alw ar Lywodraeth gwledydd Prydain i weithredu dros newid yn yr hinsawdd.

Wrth i rai ludo ei hunain i ffenestri ac i rai dinistrio ffenestri pencadlys garej Sell yn Waterloo, mae eraill yn peintio graffiti ac yn codi baneri ar yr adeilad.

Yn ôl yr heddlu mae tri dyn wedi cael eu harestio o dan amheuaeth o wneud difrod.

Dywed y grŵp ymgyrchu Extinction Rebellion eu bod yn anelu i achosi mwy na £6,000 mewn difrod fel eu bod yn cael eu rhoi o flaen rheithgor yn Llys y Goron.

Mae’r trefnwyr yn disgwyl miloedd o bobol i ymuno yn y protestio mewn pum lleoliad yng nghanol Llundain wrth iddyn nhw alw ar y Llywodraeth i ddatgan argyfwng amgylcheddol.

Nid yw’r heddlu wedi gwneud cynlluniau i symud y protestwyr ond fe all hynny newid os oes tarfu mawr yn ystod oriau traffig.

Mae’r protest yn Llundain yn rhan o ymgyrch ehangach fyd-eang sy’n gweld o leiaf 80 o ddinasoedd mewn dros 33 o wledydd yn protestio dros broblemau amgylcheddol, meddai ymgyrchwyr.