Mae dynes a gafodd ei harestio ar ôl i gi ladd plentyn 10 oed wedi cael ei rhyddhau dan ymchwiliad.

Dydy’r ddynes 28 oed ddim wedi cael ei henwi.

Cafodd hi ei harestio ar amheuaeth o fod â chi afreolus ac o ddynladdiad yn dilyn digwyddiad yn nhref Logh yng Nghernyw ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 13).

Mae’r ci yng ngofal yr awdurdodau wrth i’r ymchwiliad barhau.

Roedd y bachgen fu farw a’i deulu yn aros mewn parc carafanau, ac yn dod o ardal Plymouth.

Cafwyd hyd i’r bachgen yn farw mewn carafan am oddeutu 5 o’r gloch y bore.

Cafodd y ddynes ei harestio yn nhref Saltash rai oriau’n ddiweddarach.