Salisbury yw’r lle gorau i fyw yng ngwledydd Prydain, yn ôl y Sunday Times.
Daeth y ddinas i frig y rhestr er gwaetha’r cysylltiad â gwenwyno Sergei Skripal a’i ferch Yulia ychydig dros flwyddyn yn ôl.
Yn ôl y beirniaid, dangosodd ei thrigolion “ysbryd o ddod ynghyd” wedi’r digwyddiad.
Asiantaeth cudd-wybodaeth sy’n cael y bai am ddod â nwy Novichok yno, ond mae Rwsia’n gwadu unrhyw ran yn y digwyddiad.
Bu farw Dawn Sturgess yn sgil y gwenwyno.
‘Cymuned arbennig iawn’
“Mae Salisbury wedi dangos ysbryd go iawn o ddod ynghyd wrth ymdrin ag ymosodiad cemegol a welodd y ddinas eglwysig yn dod yn ganolbwynt i benawdau’r byd am y rhesymau anghywir,” meddai Helen Davies, golygydd The Sunday Times Home.
“Mae yna rannau o’r ddinas lle mae’r glanhau yn parhau, ond mae taro’n ôl a dod yn ôl hyd yn oed yn gryfach yn arwydd sicr o gymuned arbennig iawn, a dyna un o’r rhesymau pam ein bod ni wedi dewis Salisbury fel y lle gorau i fyw ym Mhrydain yn 2019.
“Mae’n parhau’n le deniadol a chroesawgar dros ben.
“Mae’n ddefnyddiol ar gyfer yr arfordir, cefn gwlad a Llundain, mae ganddi rai o’r ysgolion gorau yn y de-orllewin, marchnad wych ac mae’n gryf iawn yn ddiwylliannol hefyd.”
Y llefydd eraill ar y rhestr
Yr Isle of Dogs yn nwyrain Llundain yw’r lle gorau i fyw yn Lloegr, Dundee y lle gorau yn yr Alban a Holywood yng Ngogledd Iwerddon.
Caerefrog gipiodd y brif wobr y llynedd, Bryste yn 2017 a Swydd Hampshire yn 2016.
Y llefydd gorau yng Nghymru
Y lle gorau i fyw yng Nghymru yw Crughywel.
Hefyd ar y rhestr mae Aberdyfi, Abersoch, Aberteifi, Caerfyrddin, Cas-gwent, Trefaldwyn, Penarth, Tyddewi a’r Mwmbwls yn Abertawe.