Bydd Theresa May yn aros yn Brif Weinidog Prydain tan ar ôl Brexit, yn ôl Philip Hammond, y Canghellor.

Daw ei sylwadau wrth i’r trafodaethau ynghylch ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd barhau.

Mae Llywodraeth Prydain wedi llwyddo i gael estyniad tan Hydref 31.

“Mae’r prif weinidog wedi dweud y bydd hi’n gadael unwaith fydd hi wedi dod i gytundeb ac wedi ein tywys ni allan o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai’r canghellor wrth Bloomberg.

“Ond, hyd y gwn i, does ganddi ddim bwriad i adael tan bod y cytundeb hwnnw wedi’i gwblhau.

“Felly mae hi’n berson a chanddi synnwyr cryf o ddyletswydd.

“Mae hi’n teimlo bod ganddi ddyletswydd i bobol Prydain i gyflwyno Brexit a bydd hi’n sicr am weithredu ar y ddyletswydd honno.”

Etholiadau Ewrop

Er gwaetha’r estyniad, mae Theresa May yn gobeithio sicrhau cytundeb cyn Mai 23, fel na fydd rhaid cymryd rhan yn etholiadau Ewrop.

Ond gallai Prydain dynnu’n ôl o’r etholiadau hyd at y diwrnod cyn iddyn nhw gael eu cynnal pe bai cytundeb yn ei le erbyn hynny.

Yn y cyfamser, mae Nigel Farage wedi lansio Plaid Brexit yn Coventry.

Mae’n dweud bod pobol wedi cael eu “bradychu” tros Brexit, dair blynedd ar ôl y refferendwm.