Mae Nicola Sturgeon wedi addo trafod refferendwm annibyniaeth i’r Alban “ar ôl gwyliau’r Pasg”.

Daw’r addewid ar ôl i rai o fewn plaid yr SNP ddweud y dylai Prif Weinidog yr Alban ddefnyddio’r oedi diweddaraf i Brexit i alw am ail refferendwm.

Mae hyd yn oed aelod o bwyllgor gwaith yr SNP wedi galw am gynnal refferendwm cyn gynted â mis Medi eleni.

Yn ôl Chris McEleny, fe fyddai cynnal refferendwm cyn i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31 yn galluogi dinasyddion yr undeb i fod yn rhan o’r bleidlais.

Fe fyddai hefyd yn gyfle i’r Alban “ddewis ei dyfodol gydag Ewrop”, meddai.

Wrth ymateb ar Bauer Radio dywedodd Nicola Sturgeon y byddai’n trafod y syniad gyda Holyrood ar ôl y Pasg, ond ychwanega ei bod hi’n deall “diffyg amynedd” y bobol hynny sy’n awyddus i sicrhau annibyniaeth i’r Alban.

“Yn eironig, mae Brexit, sydd wedi bod ynglŷn â rhoi’r grym yn ôl i San Steffan, wedi tanlinellu pa mor bwerus yw gwledydd llai o fewn yr Undeb Ewropeaidd, felly mae’r achos am annibyniaeth yn gryfach nawr nag erioed,” meddai.

Ychwanegodd Nicola Sturgeon fod angen i’r trafodaethau Brexit rhwng Llywodraeth Prydain a’r Blaid Lafur gynnwys pleidiau eraill, ynghyd â llywodraethau datganoledig yr Alban a Chymru.