Mae ymchwiliad wedi dechrau i ddamwain hofrennydd yr heddlu yn Glasgow pan gafodd 10 o bobol eu lladd.

Bu farw’r peilot, dau aelod o’r criw a saith o gwsmeriaid tafarn y Clutha yn Glasgow pan darodd yr hofrennydd do’r adeilad ar Dachwedd 29 2013.

Fe fu munud o dawelwch ar ddechrau’r ymchwiliad ddydd Llun (Ebrill 8) er cof am y rhai fu farw.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal gerbron y Siryf Craig Turnbull mewn llys dros dro ym Mharc Hampden yn Glasgow.

Fe fydd datganiadau personol am rai o’r rhai fu farw yn cael eu darllen yn ystod yr ymchwiliad.

Pwrpas yr ymchwiliad yw penderfynu ar achos y marwolaethau a cheisio darganfod a fyddai wedi bod modd eu hosgoi. Fe fydd hefyd yn rhoi cyfle i’r Siryf wneud argymhellion a allai osgoi marwolaethau mewn achosion tebyg yn y dyfodol.

Roedd adroddiad y Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr (AAIB) a gafodd ei gyhoeddi yn 2015 wedi dod i’r casgliad bod dwy swits oedd yn rheoli’r cyflenwad tanwydd wedi cael eu troi i ffwrdd ac nad oedd y peilot wedi dilyn y canllawiau brys ar ôl cael rhybudd am danwydd.

Mae Swyddfa’r Goron eisoes wedi dweud nad oes digon o dystiolaeth i gynnal achos troseddol.

Fe fydd 57 o bobol yn rhoi tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad.