Mae llanc 17 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn 20 oed ym Manceinion ddydd Gwener (Ebrill 5).

Mae e hefyd wedi’i gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad mewn eiddo yn Wythenshawe.

Mae lle i gredu bod Tyrelle Burke wedi cael ei drywanu i farwolaeth.

Cafodd yr heddlu hyd i’w gorff am 8.45yb, ac fe fu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Mae’r llanc, nad oes modd ei enwi, wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Manceinion yfory (dydd Llun, Ebrill 8).