Mae protestiwr 44 oed o Loegr wedi cael ei arestio am gynnal protest ar gledrau trên Eurostar, gan achosi cryn oedi i deithwyr.

Fe fu’n rhaid gohirio gwasanaethau i mewn ac allan o orsaf St. Pancras yn dilyn y digwyddiad a barodd hyd at 12 awr.

Roedd y protestiwr yn chwifio baner Lloegr wrth sefyll ar y cledrau ar ddiwedd diwrnod o brotestio ynghylch helynt Brexit yn San Steffan.

Mae Eurostar wedi ymddiheuro wrth gwsmeriaid am yr oedi.

Mewn datganiad, dywed Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod dyn wedi cael ei arestio ar ôl treulio noson ar do yr orsaf.