Bydd Theresa May yn troi at y DUP ac aelodau seneddol Gogledd Iwerddon mewn ymgais i achub ei chynllun Brexit.

Gallai sicrhau cefnogaeth y DUP annog aelodau seneddol eraill yn y wlad i ddarbwyllo’r rhai sy’n ansicr mai cefnogi’r cynllun fyddai’r cam gorau er mwyn symud y sefyllfa yn ei blaen.

Mae Nigel Dodds, dirprwy arweinydd y DUP, yn dweud bod trafodaethau a gafodd eu cynnal neithiwr (nos Wener, Mawrth 15) yn “adeiladol”.

Mae disgwyl i’r Bil Ymadael fynd gerbron aelodau seneddol yn San Steffan yr wythnos nesaf am y trydydd tro – wythnos yn unig ar ôl iddo golli o 149 o bleidleisiau.

Yn sgil y bleidlais honno, mae prif weinidog Prydain yn wynebu gwrthdystiad gan ei Chabinet a her, o bosib, i’w harweinyddiaeth.

Gohirio Brexit?

Mae adroddiadau bod Brwsel eisoes yn paratoi ar gyfer gohirio Brexit y tu hwnt i Fawrth 29, ar ôl i aelodau seneddol gefnogi proses a allai ymestyn Erthygl 50.

Yn ôl un o weinidogion Latfia, gall fod angen hyd at ddwy flynedd arall cyn cael ateb i’r sefyllfa os yw aelodau seneddol yn San Steffan yn parhau i wfftio cynllun Theresa May.

Ond mae tro trwstan arall, fe allai’r Undeb Ewropeaidd fynnu bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Orffennaf 1 os nad yw’n cymryd rhan mewn etholiadau yn Senedd Ewrop ym mis Mai.

Yn ôl Stephen Barclay, fe fyddai’n well ganddo adael heb gytundeb nag ymestyn Erthygl 50, ac mae Esther McVey, y cyn-Weinidog Cabinet, yn dweud y gallai aelodau seneddol gefnogi cynllun Theresa May er mwyn sicrhau ymadawiad – er nad ydyn nhw o blaid y cynllun.

Byddai angen sêl bendith 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd er mwyn i Brydain adael gyda chytundeb.