Cafodd mwy na £63.5m ei godi tuag at elusennau Comic Relief erbyn diwedd y darllediad ar y BBC neithiwr (nos Wener, Mawrth 15).

Mae’r ffigwr yn golygu bod mwy na £1.3bn wedi cael ei godi tuag at elusennau Diwrnod y Trwynau Cochion ers ei sefydlu yn 1985.

Un o uchafbwyntiau’r noson oedd sgets yn seiliedig ar y ffilm Four Weddings and A Funeral gan Richard Curtis, ac yn serennu Alicia Vikander, Lily James, Hugh Grant, Andie MacDowell a Rowan Atkinson.

Roedd yna sgets hefyd yn seiliedig ar y gyfres Bodyguard, gyda Joanna Lumley yn chwarae’r prif weinidog, lle’r oedd y stori’n gwneud hwyl am ben cynlluniau Brexit Theresa May, y prif weinidog go iawn.

Ac roedd perfformiad arbennig o sgets newydd Alan Partridge gan Steve Coogan.

Ymhlith y sêr eraill a ymddangosodd ar y noson roedd David Beckham, Jennifer Saunders, Sue Perkins, Carey Mulligan, Alan Carr, Gemma Arterton, Andrew Flintoff, Robbie Savage, Jason Manford a Martin Freeman.