Mae busnesau wedi cael eu cynghori gan gorff safonau masnach i “weithredu yn syth” er mwyn gwaredu “pla” trais cyllyll.

Fe fu’r corff Safonau Masnach Cenedlaethol (NTS), yn ymweld a chyfres o siopau a gwefannau rhwng mis Hydref a mis Ionawr y llynedd.

A daethon nhw i’r casgliad bod 12% o siopau wedi methu gwirio oedran siopwyr a oedd yn prynu cyllyll – 50% oedd y ffigwr â siopau ar-lein.

Mae gwerthu cyllell i berson sy’n iau na 18 oed yn anghyfreithlon. Dyw NTS ddim am enwi’r siopau a fethodd i wirio oedrannau’r cwsmeriaid, ond mae sawl cwmni adnabyddus yn eu plith, medden nhw.

“Trasig”

Llynedd, arweiniodd 21,000 trosedd yn gysylltiedig â chyllyll – ac arfau eraill – at ddedfrydu neu rybuddio swyddogol yng Nghymru a Lloegr.

Roedd un o bob pump o’r troseddwyr dan 18 oed.

“Dros yr wythnosau a misoedd diwethaf, rydym wedi gweld bod trosedd cyllyll ymhlith un o’r materion mwyaf difrifol sy’n ein hwynebu,” meddai’r Cadeirydd NTS, Toby Harris.

“Mae hynny’n drasig … Galwn ar fusnesau sy’n gwerthu nwyddau i fynd i’r afael â’r pla yma trwy weithredu yn syth.”