Yn ôl adroddiadau o Ethiopia, mae ymchwilwyr wedi dod o hyd i flwch du’r awyren Ethiopian Airlines fu mewn damwain fore ddoe (dydd Sul, Mawrth 10).

Aeth yr awyren i drafferthion chwe munud ar ôl gadael Addis Ababa ar ei ffordd i Nairobi, Cenia. Bu farw’r 157 o bobol ar ei bwrdd – 149 o deithwyr ac wyth aelod o’r criw. Roedd saith o’r rhai fu farw yn ddinasyddion gwledydd Prydain.

Y gred yw bod y rhan fwyaf o’r teithwyr ar eu ffordd i gynhadledd amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig.

Mae Ethiopia wedi datgan diwrnod o alaru.

Diogelwch

Yn y cyfamser mae’r gwneuthurwr awyrennau o’r Unol Daleithiau, Boeing, dan bwysau i sicrhau diogelwch eu hawyrennau 737 Max 8 yn dilyn y ddamwain.

Mae cwmnïau awyrennau yn Tsieina wedi cael gorchymyn gan y corff sy’n goruchwylio’r diwydiant hedfan i beidio defnyddio awyrennau Max 8. Ac mae cwmni yn y Caribî, Cayman Airways, hefyd wedi penderfynu peidio defnyddio dwy o’u hawyrennau newydd.

Yn yr Unol Daleithiau mae’r Weinyddiaeth Hedfan Ffederal (FAA) wedi dweud ei bod yn “monitro’r datblygiadau yn ofalus” yn dilyn y digwyddiad.

Daw’r ddamwain fisoedd yn unig ar ôl digwyddiad arall yn ymwneud a’r un math o awyren pan gafodd 189 o bobol eu lladd.

Cydweithio

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yn y Deyrnas Unedig: “Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad trasig yn Ethiopia ddoe.

“Ar hyn o bryd mae pum awyren Boeing 737 Max 8wedi’u cofrestru ac yn weithredol yn y Deyrnas Gyfunol. Mae disgwyl i chweched awyren fod yn weithredol yn ddiweddarach yr wythnos hon.”

Ychwanegodd mai’r Weinyddiaeth Hedfan Ffederal (FAA) yn yr Unol Daleithiau sy’n gyfrifol am sicrhau bod pob Boeing 737 Max 8 yn ddiogel a’r Asiantaeth Diogelwch hedfan Ewropeaidd (EASA) sy’n gyfrifol am wneud hynny ar draws gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys gwledydd Prydain.

“Mae’r CAA yn cydweithio’n agos iawn gyda’r EASA wrth i ffeithiau’r digwyddiad yma gael eu cadarnhau.”