Mae prif brifysgolion y Deyrnas Unedig wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i lacio eu rheolau arfaethedig tros fewnfudo.

Byddai’r rheolau yn golygu bod yn rhaid i fewnfudwyr sicrhau swydd â chyflog o £30,000 er mwyn derbyn ‘fisa sgil uchel’ (skilled visa).

Yn ôl Grŵp Russell, mae’r gofyniad yn rhy lym a byddai’n “cyfyngu” ar allu prifysgolion i ddenu gweithwyr o dramor.

Hoffai’r grŵp – sy’n cynrychioli 24 prif brifysgol y Deyrnas Unedig – weld y rheol yn cael ei addasu, a bod y cyflog gofynnol yn disgyn i £21,000.

“I’r cyfeiriad anghywir”

“Byddai’r [rheolau] yma yn gam mawr i’r cyfeiriad anghywir,” meddai Prif Weithredwr Grŵp Russell, Tim Bradshaw.

“Mi fyddan nhw’n cyfyngu ar ein gallu i gyflogi’r gweithwyr o dramor sydd eu hangen ar y Deyrnas Unedig.”

Ar hyn o bryd mae gweithwyr o’r Undeb Ewropeaidd sydd yn gwneud 10% o’r swyddi ym mhrifysgolion Grŵp Russell.