Mae bron i hanner myfyrwyr prifysgol yn defnyddio alcohol a chyffuriau i ddelio â phroblemau yn eu bywydau, yn ôl canlyniadau holiadur.

O’r 37,645 o fyfyrwyr gafodd eu holi, roedd 44.7% yn dweud eu bod yn troi at y sylweddau i ymdopi, gyda bron i un ym mhob 10, 9.5%, yn cyfaddef eu bod yn gwneud hyn yn aml neu trwy’r amser.

Dywed 50.4% wedi dweud eu bod wedi meddwl am hunan-niweidio, tra bod 9.% yn meddwl amdano yn aml neu trwy’r amser. Dangoswyd bod 42.8% eu bod yn poeni trwy’r amser hefyd.

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae canlyniadau’r holiadur yn adlewyrchu’r lefelau “ysgytwol” o gamddefnyddio sylwedd gan edrych ar straen a salwch seicolegol.

Cafodd yr holiadur eu creu gan seicolegwyr a seiciatryddion yn The Insight Network, a chafodd ei ddosbarthu trwy gronfa ddata Dig In, cyn cael ei ryddhau heddiw (Dydd Mawrth, Mawrth 5).

Yn ôl eu casgliad, mae meddwl am hunan-niwedio yn arferol iawn ymysg myfyrwyr, ac mae’r tuedd yma wedi ei ddyblu ers adroddiadau 2017.

Datgelodd draean, 33.9%, fod problemau personol, emosiynol, ymddygiadol neu iechyd meddwl ddifrifol arnynt, ac yn teimlo eu bod angen cymorth proffesiynol.