Mae nifer y troseddwyr sy’n dychwelyd i’r carchar ar ôl torri amodau eu trwydded wedi “cynyddu’n aruthrol”, yn ôl y corff sy’n goruchwylio’r gwasanaeth.

Mae pennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO), Syr Amyas Morse, wedi crybwyll y cynnydd mewn adroddiad beirniadol i’r penderfyniad dadleuol i breifateiddio’r gwasanaethau prawf yn rhannol.

O 2015 roedd yn rhaid i bob troseddwr yng Nghymru a Lloegr a oedd wedi cael dedfryd o garchar, gael eu goruchwylio ar ôl cael eu rhyddhau i’r gymuned.

Cyn y newid yma, nid oedd yn rhaid i droseddwyr oedd wedi treulio llai na blwyddyn yn y carchar yn gorfod cael eu goruchwylio gan y gwasanaethau prawf.

Bwriad y newid oedd gostwng cyfraddau ail-droseddu.

Ond yn ôl adroddiad yr NAO roedd nifer y troseddwyr gafodd eu hanfon yn ôl i’r carchar am dorri amodau eu trwydded wedi cynyddu 47% rhwng mis Ionawr 2015 a mis Medi 2018, o 4,240 i 6,240.

Yn yr un cyfnod, roedd nifer y troseddwyr oedd wedi cael dedfryd o lai na 12 mis ac oedd wedi eu hanfon yn ôl i’r carchar wedi cynyddu o 3% i 36%.

Cafodd y diwygiadau i’r gwasanaethau prawf eu cyflwyno gan y cyn-ysgrifennydd cyfiawnder Chris Grayling.

O dan y cynllun cafodd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ei sefydlu er mwyn delio gydag achosion risg uchel tra bod 21 o Gwmnïau Adsefydlu Cymunedol (CRCs) yn delio gyda gweddill y gwaith.

Ond yn ei adroddiad, dywedodd Syr Amyas Morse bod y newidiadau wedi cael eu “rhuthro” a bod hynny wedi cael “canlyniadau pellgyrhaeddol”.

“Nid yn unig mae’r methiannau yma wedi bod yn hynod o gostus i’r trethdalwyr ond rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl sydd wedi cael dedfrydau byr ac sy’n dychwelyd i’r carchar”.

Y llynedd fe gyhoeddodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder y bydd cytundebau CRC yn dod i ben 14 mis yn gynt na’r disgwyl, ym mis Rhagfyr 2020.

Dywedodd y gweinidog Carchardai a Phrawf Rory Stewart eu bod yn cymryd canfyddiadau’r adroddiad o ddifrif ac yn bwriadu amlinellu cynlluniau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth yn ddiweddarach eleni.