Mae un o bob deg o oedolion dros 40 yng ngwledydd Prydain yn byw gyda chlefyd siwgwr math 2.

Ond mae elusen yn dweud y gallai miliynau o achosion gael eu hosgoi petai pobol yn deall yr hyn sy’n achosi’r cyflwr.

Mae Diabetes UK yn amcangyfrif bod 3.8 miliwn o bobol yn Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cael diagnosis clefyd siwgwr math 2.

Y gred ydi fod tua 90% o’r rheiny yn byw gyda’r math o diabetes sy’n cael ei gysylltu â bod yn ordew.

Mae canlyniadau ymchwil Diabetes UK yn dangos fod tua.miliwn o bobol hefyd yn byw gyda chlefyd siwgwr heb yn wybod iddyn nhw.

Erbyn 2030, mae’r elusen yn amcangyfrif y gallai cynifer â 5.5 miliwn o bobol fod yn diabetig.