Mae dyn a gafodd ei wahardd rhag gyrru dair gwaith cyn iddo ladd bachgen 11 oed, wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd ac wyth mis yng ngharchar.

Roedd Michael Ricardo Robinson yn gyrru ar gyflymder o 55 milltir yr awr mewn ardal 20 milltir yr awr pan darodd Taylor Schofield oedd yn croesi’r lôn ar ei feic ger ei gartref yn Beswick yn ninas Manceinion ar Iionawr 12 eleni.

Fe benderfynodd Michael Ricardo Robinson, sy’n 31 oed, ffoi gan adael y bachgen ar y llawr.

Ychydig dros awr yn ddiweddarach fe ildiodd ei hun i’r heddlu.

Pan blediodd Michael Ricardo Robinson yn euog yn Llys y Goron Manceinion ar ddydd Llun (Chwefror 18) am achosi marwolaeth gan yrru’n beryglus – datgelwyd ei fod wedi cael ei wahardd rhag gyrru dair gwaith o’r blaen.