Gallai’r broses o ddadradicaleiddio merch wnaeth ffoi i Syria yn 15 oed fod yn “her”, meddai arbenigwr ar wrth-frawychiaeth.
Mae Shamima Begum, oedd wedi teithio o Loegr gyda’i ffrindiau bedair blynedd yn ôl, yn feichiog ac yn awyddus i ddychwelyd i ddwyrain Llundain er mwyn magu’r plentyn.
Mae hi wedi gofyn i Lywodraeth Prydain ei helpu.
Mae Haras Rafiq, prif weithredwr y corff gwrth-frawychiaeth Qulliam, yn dweud ei fod yn deall pryderon y cyhoedd “yn llwyr”, ond mai’r peth cywir fyddai rhoi’r hawl iddi fynd gerbron llys i gael dod adref.
Mae Sajid Javid, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, eisoes wedi dweud na fyddai’n oedi cyn atal pobol rhag dychwelyd i wledydd Prydain pe baen nhw wedi dod yn aelodau Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.
Ond mae David Gauke, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, yn dweud nad oes modd gwneud pobol yn “ddi-wladwriaeth”.
Mae lle i gredu y byddai hi’n cael ei harestio pe bai hi’n teithio adref.
Ansicrwydd
“Allai neb ddweud yn sicr ar hyn o bryd, heb gyfarfod â hi, treulio amser gyda hi, a fyddai modd ei dadradicaleiddio hi neu beidio,” meddai Haras Rafiq.
“Yr hyn y gallwn ni ei ddweud nawr o’r cyfweliad yw nad yw hi’n dangos edifeirwch ac nad yw pennau wedi cael eu torri i ffwrdd a bomiau o’i chwmpas yn ei phoeni hi, oherwydd roedd hi’n credu mai dyna yw bywyd normal.
“Dyna’r broblem.”
Pe bai hi’n cael ei charcharu wrth ddychwelyd i Loegr, fyddai hi ddim yn gorfod dilyn rhaglenni dadradicaleiddio, meddai.
Ond mae hi’n dweud ei bod hi’n gofidio y gallai hi golli ei babi.