Fe fydd y Prif Weinidog yn ceisio cymeradwyaeth y Senedd ddydd Iau am fwy o amser iddi barhau i drafod gyda’r Undeb Ewropeaidd i geisio ateb i ffin Iwerddon.

Wrth annerch Aelodau Seneddol y pnawn yma, dywedodd Theresa May y bydd yn cyflwyno cynnig a fydd yn gofyn am barhau’r gefnogaeth iddi fynnu trefniadau gwahanol i’r cynllun wrth gefn presennol – y ‘backstop’ dadleuol – i gadw’r ffin yn agored.

Dywedodd y bydd hi wedyn yn dychwelyd ymhen pythefnos, ar 26 Chwefror, gyda datganiad pellach a fydd yn arwain at ddadl arall a phleidleisiau’r diwrnod wedyn os na fydd hi wedi sicrhau cytundeb erbyn hynny.

Os bydd hi wedi cael cytundeb, fe fydd Aelodau Seneddol yn cael ‘ail bleidlais ystyrlon’ fel yr un y mis diwethaf pryd y cafodd cynllun gwreiddiol Theresa May ei wrthod gyda mwyafrif o 230 o bleidleisiau.

Fe wnaeth hi osgoi ateb sawl cwestiwn a fyddai hi’n gofyn i’r Undeb Ewropeaidd am estyniad i’r dyddiad ymadael neu adael i Brydain adael heb gytundeb os na fydd cytundeb erbyn 29 Mawrth.

“Celwydd”

Wrth ymateb i’w datganiad, fe fu’n rhaid i arweinydd seneddol yr SNP dynnu ei eiriau’n ôl ar ôl iddo ei chyhuddo o ddweud celwydd.

“Rydym newydd glywed gan y Prif Weinidog fod arni eisiau cwblhau hyn ym mis Rhagfyr – sôn am ail-ysgrifennu hanes,” meddai Ian Blackford.

“Hi a wnaeth wadu’r hawl inni gael y bleidlais ystyrlon, ac mae hi’n eistedd yma’n chwerthin, weithiau fe ddylech fod yn onest gyda chi’ch hun, heb sôn am fod yn onest gyda phobl y Deyrnas Unedig.”

Pan gyhuddodd Theresa May ef wedyn o gamarwain y Tŷ, gwaeddodd arni nad oedd hynny’n wir. Wedyn aeth ASau Torïaidd yn gandryll ar ôl ei glywed yn gweiddi “liar”.

Cytunodd i dynnu’r gair yn ôl o ran cwrteisi i’r Llefarydd John Bercow.