Gallai etholiad cyffredinol brys arwain at y Torïaid yn ennill tir ar Lafur, yn ôl arolwg barn cynhwysfawr gan YouGov.

Mae’n dangos y Torïaid yn cynyddu nifer eu seddau o 317 i 321, a Llafur yn colli 12 i lawr i 250.

Gan nad yw Sinn Fein yn cymryd eu seddau, gallai nifer o’r fath olygu mwyafrif bach iawn o un neu ddau dros bawb i Theresa May.

Gyda’r rhwygiadau o fewn ei phlaid ei hun, fodd bynnag, gallai olygu y byddai hi’n dal yn ddibynnol ar bleidleisiau’r DUP o Ogledd Iwerddon.

Roedd yr arolwg o dros 40,000 o etholwyr ym Mhrydain yn defnyddio model o asesu etholaethau unigol. Dyma’r un dull a gafodd ei ddefnyddio i ddarogan senedd grog yn 2017 – un o’r ychydig arolygon i wneud hynny’n gywir.

Mae’r arolwg hefyd yn dangos cynnydd bach yn y gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol ac Ukip.