Fe fydd Theresa May yn gwneud datganiad yn y Senedd yfory (dydd Mawrth, 12 Chwefror) ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf am drafodaethau Brexit, meddai Downing Street.

Roedd disgwyl i’r Prif Weinidog wneud ei datganiad ddydd Mercher cyn y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau, ond dywedodd ei llefarydd swyddogol y byddai newid y dyddiad yn rhoi “cwpl o ddyddiau i’r Senedd gael ystyried y cynnwys.”

Fe fydd Llafur yn defnyddio’r bleidlais ddydd Iau i geisio gorfodi Theresa May i ddod a’i chytundeb Brexit yn ôl i Dy’r Cyffredin erbyn 26 Chwefror.

Ond mae disgwyl i Theresa May gynnig cyfle pellach i Aelodau Seneddol bleidleisio ar y newidiadau ar 27 Chwefror.

Y bwriad yw ceisio gohirio gwrthryfel gan weinidogion sydd am osgoi’r posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar 29 Mawrth heb gytundeb.

Fe fu’r Ysgrifennydd Brexit Stephen Barclay yn cwrdd â Cheidwadwyr o bobl ochr y blaid heddiw er mwyn ceisio dod i gyfaddawd i atal y “backstop” dadleuol yng Ngogledd Iwerddon.

Fe fydd Stephen Barclay yn teithio i Frwsel yn ddiweddarach ar gyfer trafodaethau gyda phrif negodwr yr UE Michel Barnier.

Yn y cyfamser mae Theresa May wedi cynnig trafodaethau pellach gyda’r Blaid Lafur mewn ymdrech i sicrhau consensws trawsbleidiol ar Brexit.