Mae aelod seneddol Llafur blaenllaw yn dweud bod angen i’r blaid “fynd ymhellach” wrth ymateb i’r honiadau o wrth-Semitiaeth.

Daw sylwadau Jon Ashworth wrth ymateb i farn Tony Blair, cyn-Brif Weinidog Prydain, nad yw Jeremy Corbyn wedi bod yn ddigon “cadarn” ei ymateb i’r helynt.

Mae e hefyd wedi amddiffyn Luciana Berger, yr aelod seneddol Llafur sy’n wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn sgil ei sylwadau hithau ar y mater.

“Wrth gwrs y dylem ddileu gwrth-Semitiaeth o’r Blaid Lafur,” meddai Jon Ashworth wrth Sky News.

“Rydym i fod yn blaid wleidyddol flaengar, sut allwn ni ddweud ein bod yn derbyn rhyw lefel o wrth-Semitiaeth o fewn y blaid?

“A fyddem yn dweud yn fwy cyffredinol ei bod yn dderbyniol cael lefel o hiliaeth o fewn y Blaid Lafur? Wrth gwrs na fyddem ni.”

Ymateb

“Mae’r ffaith fod rhywun fel Luciana Berger – sy’n aelod seneddol deallus, galluog a gweithgar sy’n gwneud ei gorau dros ei hetholwyr – yn destun pleidlais o ddiffyg hyder gyda’r math yma o honiadau’n cylchdroi yn destun cywilydd i’r Blaid Lafur,” meddai Tony Blair.

“Mae un person gwrth-Semitaidd yn y Blaid Lafur yn un yn ormod,” meddai Jon Ashworth.

Dywed fod y blaid yn “gwneud cynnydd” wrth geisio datrys y sefyllfa, ond fod angen “mynd ymhellach ac yn gyflymach”.

Diffyg hyder yn Luciana Berger

Trefnodd cangen Lerpwl Wavertree o’r Blaid Lafur gyfarfod arbennig i drafod dwy bleidlais o ddiffyg hyder yn Luciana Berger.

Roedd hi wedi’i chyhuddo o “ddefnyddio’r cyfryngau’n gyson i feirniadu’r dyn yr ydym oll am iddo fod yn Brif Weinidog” am fod yn wrth-Semitaidd.

Ond cafodd y cyfarfod ei ganslo yn dilyn honiadau ei bod hi’n cael ei “bwlio” – honiadau sy’n cael eu gwadu gan y gangen leol.