Mae Mike Ashley, pennaeth cwmni Sports Direct a pherchennog Clwb Pêl-droed Newcastle, ymhlith y rhai sy’n talu’r cyfanswm mwyaf o drethi yng ngwledydd Prydain.

Hefyd ar y rhestr gan y Sunday Times mae Syr James Dyson, David a Victoria Beckham, teulu bara Warburton, Syr Stelios Haji-Ioannou, pennaeth cwmni awyr Easyjet a theulu Arora sy’n berchen ar siopau B&M.

Y trethdalwr mwyaf ar y rhestr yw Stephen Rubin, prif berchennog JD Sports.

Dyma’r tro cyntaf i’r rhestr gael ei llunio.

Y prif drethdalwyr

Mae’r papur yn gosod Stephen Rubin ar frig y rhestr, gyda bil treth o £181.6m.

Denise, John a Peter Coates, perchnogion bet365, sy’n ail ar y rhestr (£156m).

Syr James Dyson sy’n drydydd (£127.8m), yn fuan ar ôl cyhoeddi ei fwriad i symud pencadlys ei gwmni i Asia yn sgil Brexit.

Talodd Mike Ashley £30.4m y llynedd.

‘Cyfrannu miliynau o bunnoedd’

Er yr holl gyhoeddusrwydd i enwogion sy’n osgoi talu trethi drwy gynlluniau tramor, mae Robert Watts, awdur y rhestr, yn dweud bod tystiolaeth bellach fod rhai o brif berchnogion busnes gwledydd Prydain yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi.

“Mae’n anodd gwadu yn sgil Papurau Panama, Papurau Paradwys a’r sgandalau proffil uchel eraill wedi rhoi’r argraff nad yw’r un o gyfoethogion Prydain yn cyfrannu ceiniog at y cyllid cyhoeddus,” meddai.

“Ond mae ein Rhestr Trethi’r Sunday Times gyntaf erioed yn dangos pa rai ymhlith y cyfoethogion sy’n cyfrannu miliynau o bunnoedd bob blwyddyn.

“Mae’r rhain yn symiau mawr o arian – y maint nad yw’n talu am nyrs yn unig, ond yn talu i adeiladu’r ysbyty lle maen nhw’n gweithio.”

David a Victoria Beckham

Mae cynnwys David a Victoria Beckham ar y rhestr yn mynd yn groes i’r farn gyhoeddus fod y pâr yn rhan o nifer o gynlluniau i osgoi talu trethi.

Mae lle i gredu bod ganddyn nhw gysylltiadau â chwmni cyllid Ingenious, sydd wedi buddsoddi mewn ffilmiau megis Avatar er mwyn talu llai o drethi.

Fe fu adroddiadau bod David Beckham wedi colli’r cyfle i gael ei urddo’n farchog yn sgil yr helynt, yn dilyn beirniadaeth gan Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.