Mae dau gwch bach yn cludo 12 o ddynion o Syria ac Iran wedi cael eu dal yn y sianel rhwng Lloegr a Ffrainc.
Cafodd y dynion eu trosglwyddo i swyddogion mewnfudo yn Dover i gael eu holi.
Mae’n dilyn sawl ymgais gan ffoaduriaid i groesi’r Sianel dros gyfnod y Nadolig.
Cafodd cwch bach, yn cludo un Syriad a thri o Iran, ei riportio i wylwyr y glannau tua 3yb, a chafodd ail gwch, yn cludo wyth o Iraniaid ei weld tua 9yb.
Ddydd Nadolig ceisiodd mwy na 40 o ffoaduriaid groesi’r môr a dod i mewn i wledydd Prydain.
‘Pryder mawr’
Dywed y Gweinidog Mewnfudo, Caroline Noakes, fod y nifer o ffoaduriaid sy’n croesi’r Sianel yn peri “pryder mawr”.
“Mae rhywfaint o hyn, yn amlwg, yn cael ei achosi gan grwpiau o droseddwyr tra bod eraill yn ymddangos yn oportiwnistig,” meddai.
“Mae ceisio croesi’r Sianel fel hyn yn hynod o beryglus ac maen nhw’n rhoi bywydau mewn peryg.
“Mae heddluoedd ym Mhrydain a Ffrainc yn gweithio 24 awr y dydd i’w rhwystro, diogelu bywydau ac erlyn troseddwyr.
“Ar yr un pryd, mae tasglu mewnfudo’r Deyrnas Unedig yn gweithio trwy fynd i lygad y ffynnon i rwystro smyglo pobol.”