Mae’r adran o Lywodraeth Prydain sy’n gyfrifol am adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael ei chyhuddo o gelu’r “caswir” am Brexit.

Daw hyn ar ôl i ymchwil gan ymgyrch Pleidlais y Bobl am ail refferendwm ddangos mai dim ond un o bob pump cais Rhyddid Gwybodaeth sydd wedi cael eu hateb yn llawn.

Y ganran hon – 21% – oedd yr isaf o’r holl gyfraddau ateb ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn Whitehall rhwng Gorffennaf 2016 a Mehefin 2017.

Yn ôl Pleidlais y Bobl, y cyfartaledd drwy Whitehall yw 44%.

‘Sgandal’

Meddai’r AS Llafur Peter Kyle, o ymgyrch Pleidlais y Bobl:

“Mae diffyg tryloywder y Llywodraeth ynghylch Brexit yn sgandal genedlaethol, ac yn rhan o’r rheswm pam rydym yn y llanast yma ar hyn o bryd.

“Y gwirionedd maen nhw’n ceisio’i guddio yw y byddai Brexit y Llywodraeth yn niweidio’n heconomi’n ddrwg a’i fod yn llawer gwaeth na’n cytundeb presennol o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

“Oherwydd y methiant i fod yn agored a thryloyw, mae’r cyhoedd wedi colli hyder yng ngallu’r Llywodraeth i ymdrin â Brexit yn iawn. Dyma pam fod mwy a mwy o bobl yn cefnogi’r galwadau am Bleidlais y Bobl.”

‘Pwysig cydbwyso’

Mewn ymateb, meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth:

“Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i dryloywder, ond mae’n bwysig cydbwyso’r angen i ddarparu gwybodaeth â diogelwch cenedlaethol a’n gallu i hyrwyddo’r Deyrnas Unedig yn y ffordd orau dramor.”