Mae’r heddlu wedi dweud mai “cyfathrebu gwael” oedd wedi arwain at awgrymiadau nad oedd awyrennau drôn ym maes awyr Gatwick wythnos ddiwethaf.

Mae gweinidogion wedi cael eu diweddaru am y sefyllfa ddiweddaraf gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Chris Grayling yn dilyn beirniadaeth lem o’r modd yr oedd Heddlu Sussex wedi delio gyda’r ymchwiliad.

Dywedodd Heddlu Sussex ddydd Sul bod “posibilrwydd” nad oedd awyrennau drôn yn Gatwick a oedd wedi arwain at gau’r maes awyr am dridiau gan achosi trafferthion mawr i filoedd o deithwyr.

Ond mae ffynhonnell o fewn y Llywodraeth wedi dweud bod yr heddlu’n derbyn bod “diffyg cyfathrebu” wedi bod.

Roedd dronau wedi cael eu gweld nifer o weithiau rhwng 19 a 21 Rhagfyr, meddai Heddlu Sussex ddydd Llun (24 Rhagfyr) ac maen nhw wedi apelio ar y cyhoedd i gysylltu gyda nhw os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth.

Mae Chris Grayling a phrif weithredwyr y maes awyr wedi bod yn trafod mesurau i geisio atal digwyddiadau tebyg.

Mae’n debyg bod yr heddlu a’r Swyddfa Gartref yn cydweithio er mwyn cyfleu neges glir ei bod yn anghyfreithlon i hedfan dronau ger meysydd awyr.

Cafodd dyn a dynes a oedd wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad eu rhyddhau heb gyhuddiad ddydd Sul, ar ôl cael eu cadw yn y ddalfa am ddwy noson. Mae’r heddlu wedi dweud nad ydyn nhw bellach yn cael eu hamau mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae’r cwpl, Paul Gait ac Elaine Kirk o Crawley yn Sussex, yn dweud bod y profiad wedi eu dychryn a’u bod yn teimlo bod yr heddlu wedi tarfu ar eu preifatrwydd.