Mae dyn 54 oed wedi ei gael yn euog o dwyll gwerth £33,000 ar ôl honni ei fod yn byw yn Nhŵr Grenfell adeg y tân.

Cafwyd e’n euog o ddau gyhuddiad pan aeth gerbron Llys y Goron Isleworth ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 11).

Honiadau

Roedd e’n honni ei fod e’n byw ar unfed llawr ar ddeg yr adeilad, a gafodd ei ddinistrio’n llwyr gan y tân fis Mehefin y llynedd.

Bu farw 72 o bobol yn y digwyddiad, ac roedd e’n honni bod ei frawd yn eu plith.

Fe wnaeth e gais am gymorth ariannol gwerth £33,000 gan Gyngor Kensington a Chelsea, yn ogystal ag elusen Ymddiriedolaeth Rugby Portobello.

Pan gafodd ei arestio, roedd e’n honni ei fod yn dioddef o wallgofrwydd dros dro am ei fod yn ymprydio yn ystod Ramadan.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Mawrth nesaf (Rhagfyr 18).

Hyd yn hyn, mae cyfanswm o £650,000 wedi cael ei hawlio trwy dwyll mewn perthynas â’r tân.