Mae dyn 18 oed wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn ne-ddwyrain Llundain.
Fe fu farw yn y fan a’r lle yn dilyn digwyddiad yn ardal Greenwich.
Mae llanc 17 oed wedi’i arestio ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa yn ne Llundain.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 9.41 neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 9), ond bu farw’r dyn yn fuan wedyn.