Mae Barwnes Osamor wedi synnu llawer ar ôl iddi gymryd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw (dydd Mawrth. Rhagfyr 4).

Mae grwpiau Iddewig wedi bod yn mynegi eu “syndod”, gan ei bod hi wedi ymgyrchu o blaid gwleidyddion sydd wedi’u gwahardd o’r Blaid Lafur o ganlyniad i honiadau o wrth-Semitiaeth.

Mae’r ffaith i Farwnes Osamor gael ei henwebu o gwbwl i fynd i Dŷ’r Arglwyddi yn “codi dau fys” ar y gymuned Iddewig, meddai protestwyr.

Fe lofnododd Farwnes Osamor, sy’n ymgyrchydd hawliau sifil, lythyr yn protestio dros atal aelodau’r blaid am honiadau o wrth-semitiaeth – oedd yn cynnwys Ken Livingstone, a gafodd ei atal dros ei honiad fod Hitler wedi cefnogi Seioniaeth yn yr 1930au.