Bydd miloedd o bobol ifanc yn ddigartref – neu’n wynebu’r risg o fod yn ddigartref – yn ystod yr wythnosau hyd at y Nadolig, yn ôl elusen.

Mae Centrepoint yn dweud bod 18,000 o bobol 16-25 oed yn y Deyrnas Unedig yn byw ar y strydoedd – neu’n wynebu’r risg o hynny – ac maen nhw’n gobeithio tynnu sylw at y mater.

Fel rhan o’u hymgyrch i godi ymwybyddiaeth maen nhw wedi enwi Tachwedd 30 yn ‘Ddydd Gwener Llwm’ – addasiad o ‘Dydd Gwener Du’.

“Cyfnod llwm”

“I lawer o bobol mae’r Nadolig yn gyfle i wario arian a bargeinion ‘Dydd Gwener Du’,” meddai Prif Weithredwr Centrepoint.

“Ond i bobol ifanc digartref mae’n medru bod yn gyfnod llwm, ofnus a pheryglus. Tra bod llawer o ohonom yng nghwmni teuluoedd a ffrindiau, mae’n hawdd anghofio am bobol lai ffodus.

“Â phroblem ddigartrefedd ieuenctid yn tyfu, mae angen help arnom nawr yn fwy nag erioed o’r blaen er mwyn amddiffyn pobol ifanc fregus a’u helpu i gael blwyddyn newydd llai llwm.”

Ystadegau

Mae ymchwil yr elusen yn dangos bod:

  • 93% o bobol sydd wedi cysgu ar y strydoedd yn teimlo nad oes unrhyw un yn poeni amdanyn nhw
  • 26% bobol sydd wedi cysgu ar y strydoedd wedi aros â pherson dieithr gan nad oes ganddyn nhw opsiwn arall
  • 26% o bobol ifanc digartref yn cysgu ar soffas ac yn symud o gartref i gartref
  • 68% o bobol ifanc digartref yn aros dros dro â ffrindiau neu eu teuluoedd er mwyn osgoi sefyllfaoedd annymunol