Cynyddu mae’r pwysau ar Theresa May wedi iddi gael ei beirniadu’n hallt gan y Blaid Ddemocrataidd Unoliaethol (DUP).

Mewn llythyr at arweinydd y DUP, Arlene Foster, mae’r Prif Weinidog wedi amlinellu ei gobeithion am gynllun wrth gefn ar gyfer ffin Iwerddon, yn dilyn Brexit.

Yn y llythyr, a ddaeth i law The Times, mae Theresa May yn dweud yr hoffai weld y Deyrnas Unedig oll yn cydymffurfio â rheolau Ewrop am gyfnod – petasai’r trafodaethau Brexit yn methu.

Byddai hynny yn atal creu ffin galed rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, ac yn sicrhau masnach ddi-rwystr rhwng y ddwy wlad.

Yn ei llythyr mae Theresa May hefyd yn nodi bod Ewrop am weld cynllun arall yn cael ei rhoi wrth gefn, a fyddai’n gorfodi Gogledd Iwerddon yn unig i gydymffurfio â’u rheolau.

Beirniadaeth

Bellach, mae wedi dod i’r amlwg bod Arlene Foster, Arweinydd y DUP, wedi dehongli’r llythyr fel cadarnhad y gallai’r Deyrnas Unedig dderbyn cynllun wrth gefn Ewrop.

Felly mae wedi ymosod ar ei chyd-unoliaethwr.

“Mae llythyr y Prif Weinidog yn sicr o bryderu pobol sy’n gwerthfawrogi ein hundeb werthfawr, a phobol sydd eisiau Brexit go-iawn,” meddai.

“Mae’n ymddangos bod y Prif Weinidog wedi ymrwymo i’r syniad o osod ffin drwy Fôr Iwerddon, gyda Gogledd Iwerddon yn rhan o gyfundrefn yr Undeb Ewropeaidd.”

Gan nad oes gan y Ceidwadwyr fwyafrif digonol yn San Steffan, mae Theresa May yn ddibynnol ar gefnogaeth deg Aelod Seneddol y DUP.